Cymynrodd

Cymynrodd
Mae gadael rhodd yn eich ewyllys i Gofal Hosbis George Thomas yn ffordd arbennig iawn o helpu ac mae’n anrheg parhaus i’r bobl rydyn ni’n ceisio’u helpu.

Mae gadael rhodd i ofal Hosbis George Thomas yn rhydd o Dreth Etifeddu. Mae gwerth eich ystâd ar gyfer asesiad treth yn cael ei leihau o werth y rhodd, felly gall y dreth sy’n daladwy ar eich ystâd gael ei leihau neu hyd yn oed ei ddileu’n llwyr.

Os ydych chi’n bwriadu cofio Gofal Hosbis George Thomas yn eich Ewyllys dylech geisio cyngor gan Gyfreithiwr neu ymgynghorydd proffesiynol arall. Os oes gennych chi Ewyllys eisoes, mae’n hawdd ei newid. Bydd unrhyw Gyfreithiwr yn falch o’ch helpu a faint fydd y gost (os bydd cost o gwbl).  
Gallwch hefyd wneud ewyllys ar-lein. Os hoffech chi wneud ewyllys ar-lein ewch i  http://www.thewillsite.co.uk.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch adael cymynrodd i Ymddiriedolaeth Gofal Hosbis George Thomas . Mae’r canlynol yn nodi’r tri phrif ddewis gan awgrymu geiriad addas bob tro. 
  • Cymynrodd Ariannol: Cymynrodd ariannol yw’r math sy’n nodi swm o arian. 
  • Cymynrodd Benodol:  Mae hyn yn eich galluogi i adael rhywbeth o werth i Gofal Hosbis George Thomas ac y gellir ei ddefnyddio gan yr elusen mewn modd rydyn ni’n ei bennu’n addas.  
  • Cymynrodd Weddillol: Dyma pan fyddwch yn gadael gweddill eich ystâd i  Ofal Hosbis George Thomas e Thomas  ar ôl gofalu am bopeth arall.
Cymynrodd Ariannol

Mae cymynrodd ariannol yn nodi swm o arian. Mae’n syml a diffwdan ond nid yw’n caniatáu am chwyddiant. Gall rhodd o £250 heddiw fod
yn werth llawer llai mewn 20 neu 30 blynedd!

Dyma awgrym o eiriad addas ar gyfer cymynrodd ariannol:

"RYDW I’N RHOI’r swm o £.............( - mewn geiriau – punnoedd ) yn rhydd o dreth i Ofal Hosbis George Thomas (Elusen Gofrestredig Rhif 1023311) o Tŷ George Thomas, Tir Ysbyty’r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7BQ ar gyfer dibenion cyffredinol ac RYDW I’N DATGAN bod derbynneb oddi wrth y Trysorydd neu swyddog priodol arall ar y pryd yn ryddhad digonol o’r rhodd.”

Cymynrodd Benodol

Mae cymynrodd benodol yn eich galluogi i adael rhywbeth o werth i Ofal Hosbis George Thomas y gellir ei ddefnyddio gan yr elusen mewn modd rydyn ni’n ei bennu’n addas.

Dyma awgrym o eiriad addas ar gyfer cymynrodd benodol:

"Rydw i’n rhoi............. i Ofal Hosbis George Thomas (Elusen Gofrestredig Rhif 1023311) o Tŷ George Thomas, Tir Ysbyty’r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7BQ ar gyfer dibenion cyffredinol ac RYDW I’N DATGAN bod derbynneb oddi wrth y Trysorydd neu swyddog priodol arall ar y pryd yn ryddhad digonol o’r rhodd.”

 

Cymynrodd Weddilliol

Cymynrodd Weddilliol yw pan fyddwch yn gadael gweddill eich ystâd i Ofal Hosbis George Thomas ar ôl gofalu am bopeth arall.
 
Dyma awgrym o eiriad addas ar gyfer cymynrodd benodol:

"Yn ddibynnol ar dalu fy nyledion, costau angladdol ac ewyllysiol, cymynroddion a’r holl dreth taladwy ar fy ystâd RYDW I’N RHOI fy eiddo gwir a phersonol, ble bynnag y’i leolir nid yma neu trwy unrhyw godisil y ceir gwared ag ef yn benodol  (yn cynnwys unrhyw eiddo mae gen i b?er cyffredinol trwy benodiad neu trwy drefniant mewn Ewyllys) i Ofal Hosbis George Thomas (Elusen Gofrestredig Rhif 1023311) o Tŷ George Thomas, Tir Ysbyty’r Eglwys Newydd, Heol y Parc, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7BQ yn llwyr ar gyfer ei amcanion cyffredinol ac RYDW I’N DATGAN bod derbynneb oddi wrth y Trysorydd neu swyddog priodol arall ar y pryd yn ryddhad digonol o’r rhodd.”

 



back to top