Rhoi Wrth Ennill
Rhoi Wrth Ennill
Cefnogi Gofal Hosbis George Thomas trwy Roi Wrth Ennill yw un o’r ffyrdd hawsaf i’n helpu ni i helpu eraill trwy ein gwasanaethau gofal a chynnal.
Mae rhoi’n uniongyrchol o’ch cyflog yn golygu bod Gofal Hosbis George Thomas yn derbyn incwm rheolaidd. Mae hyn yn ein caniatáu i gynllunio ymlaen. A hyd yn oed yn well i chi does dim treth arno.
Gallwch roi unrhyw swm yn flynyddol i elusen trwy GAYE. Er enghraifft, os ydych chi’n rhoi £10 y mis, dim ond £7.80 fydd hyn yn ei gostio i chi. Oherwydd nid yw’r dyn treth yn cymryd y £2.20 y byddech fel arfer yn ei dalu ar gyfradd sylfaenol o 22%. Yn lle hynny mae’n dod i Gofal Hosbis George Thomas. Mae rhoddion Rhoi Wrth Ennill yn costio llai fyth i’r rhai sy’n talu graddfa uwch o dreth.
Gall unrhyw un ymuno â’r cynllun GAYE os yw eu tâl neu eu pensiwn yn cael ei drethu trwy PAYE.
Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan y ‘Charities Aid Foundation’ (CAF), Elusen Gofrestredig Rhif 268369. Dim ond tâl gweinyddu o 4% maen nhw’n ei godi (lleiafswm 25c) y didyniad.
Os yw’ch cyflogwr wedi cofrestru gyda GAYE does dim angen i chi wneud dim ond dweud wrthyn nhw pwy rydych eisiau ei gefnogi a faint trwy lenwi ffurflen syml. Os nad ydyn nhw wedi cofrestru gyda GAYE gallwch gael pecyn iddyn nhw (neu gallan nhw gael pecyn eu hunain) oddi wrth:
Charities Aid Foundation
Kings Hill
West Malling
Kent ME19 4TA
Teliffon: 01732-520 019
Fe fyddan nhw’n derbyn pecyn cyflogwr llawn, ynghyd â Ffurflenni Cytundeb a Chofrestru Rhestr Gyflogau, sydd yn cael eu arwyddo gan swyddog a’u hanfon yn ôl. Ar ôl cymeradwyaeth gan Cyllid y Wlad gall y cyflogwr hybu’r cynllun a dechrau gwneud didyniadau yn ôl eich dymuniad.
Os ydych yn ymwneud â Chodi Arian ymhlith Staff, gallwch sefydlu Cronfa Elusen Staff. Gall gweithwyr gronni eu cyfraniadau gyda rhai eu cydweithwyr mewn cronfa staff fyddai’n cael ei chadw gan CAF. Mae’r gr?p yn penderfynu ar y cyd pa elusennau maen nhw eisiau eu cefnogi ac yn ethol cynrychiolwyr i ddosbarthu’r rhoddion.
Gallech hyd yn oed berswadio’ch cwmni i gydweddu’r swm rydych chi’n ei roi, gan felly ddyblu’r budd i Ofal Hosbis George Thomas.
back to top