Beth yw ‘Light Up A Life’?
Noddwch olau ar ein coeden Nadolig er cof am rywun annwyl i chi sydd wedi’n gadael ni neu er clod i rywun sy’n dal gyda ni.
Bydd y rhodd yn cynnwys neges yn ein Llyfr Coffa fydd yn cael ei arddangos gyda’r Goeden Nadolig. Bydd y goeden a’r llyfr yn cael eu harddangos yn Arcêd y Frenhines, Caerdydd o .......... hyd ............. Bydd y Llyfr Coffa’n cael ei ddiweddaru’n wythnosol trwy gydol yr apêl a gellir gwneud cofnodion ychwanegol hyd ........ Wedi hyn bydd y Llyfr Coffa’n cael ei gadw yn ein canolfan hosbis.
Eleni rydyn ni’n gobeithio y bydd yr apêl yn fwy llwyddiannus nag erioed ac rydyn ni’n eich gwahodd yn gynnes i noddi golau. Gellir gwneud cofnod ychwanegol yn ein Llyfr Coffa ar y Rhyngrwyd a gaiff ei arddangos ar y safle hon drwy gydol y flwtddyn.
Mae pob cyfraniad yn mynd tuag at ein gwaith wrth ddarparu gofal nyrsio a gwasanaethau cynnal ar gyfer y rhai sy’n wynebu cancr a chlefydau eraill sy’n peryglu bywyd. Helpwch ni i helpu eraill.
back to top