Gofal Hosbis George Thomas Prif ddarparwr gofal lliniarol yn y gymuned, sy’n ddi-dâl ac o dan arweiniad ymgynghorwyr, ar gyfer y sawl sy’n wynebu canser ac afiechydon eraill sy’n bygwth bywyd yng Nghaerdydd
yw prif ddarparwr gofal lliniarol yn y cartref yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rydyn ni’n bodoli i helpu’r rhai sy’n dioddef o ganser a chlefydau eraill sy’n peryglu bywyd, eu teuluoedd a’u gofalwyr ar yr adeg mwyaf anodd a dan bwysau yn eu bywydau. Dysgwch fwy...
Mae ein gofal arbenigol a’r amrywiaeth o wasanaethau cynnal arbenigol pwysig ar gael i’n cleifion a’u teuluoedd yn hollol am ddim. Rydyn ni’n elusen gofrestredig ac er mwyn darparu’n gwasanaeth hanfodol mae angen i ni godi’r rhan helaethaf o’n costau rhedeg trwy godi arian gwirfoddol.
Os ydych angen ein help proffesiynol, os ydych eisiau’n helpu ni i helpu eraill, os ydych am ddod o hyd i fwy am ein gwaith a’n gweithgareddau codi arian yna ewch i’n gwefan a chysylltwch â ni.